Dweud stori
Dec 15, 2025
10 munud
Rhodd Nadolig
Pwy sydd ddim yn mwynhau clywed stori o bob oed? Ar adeg y Nadolig bydd llawer yn mwynhau derbyn llyfr da i'w ddarllen ac ni ddylid byth tanbrisio pwysigrwydd celfyddyd adrodd stori. Fel athrawon gallwn ni gyd ddefnyddio stori i ymgysylltu â denu sylw disgyblion. Mae Hywel Roberts yn ei lyfr 'Botherdness' yn siarad am bwysigrwydd cael disgyblion i ymgysylltu yn eu dysgu. Mae ganddo lawer o clipiau fideo sy'n adlewyrchu ei feddylfryd.
Dyma un Bing Videos
Os oes gennych ychydig oriau i'w neilltuo dros gyfnod y Nadolig, efallai y byddwch yn mwynhau ei bodlediad gyda James Mannion – Rhybudd mae'n para 4 awr 4 munud ond mae'n werth gwrando arno!
Sut i wneud i ddosbarthiadau deimlo'n gynnes ac yn fyw, gyda Hywel Roberts a Tim Taylor Rethinking Education.
Mae'r bennod hon yn cynnwys sgwrs syfrdanol gan ddau addysgwr rhagorol, Hywel Roberts a Tim Taylor. Fe gamodd Tim mewn fel gwestai ar gyfer y bennod hon, i archwilio rhai o'r syniadau mawr sy'n sail i lyfr ardderchog Hywel, 'Botheredness': Straeon, safbwynt, addysgeg.
Listen on Apple Podcasts: https://podcasts.apple.com/gb/podcast/rethinking-education/id1546512828?i=1000697662107
Dyma enghraifft allan o lyfr Hywel Roberts 'Botherdness' dwi wedi addasu ychydig lle mae'n defnyddio'r ymadrodd Gadewch i ni ddweud neu ‘Let’s say’ . Ac yna dyma ni’n mynd i fyd arall o drafodaeth ddiddorol a meddwl dwfn yn datblygu geirfa ac addysg fuddiol.
Ail Ryfel Byd
Gadewch i ni ddweud ein bod ni'n byw mewn tref ffyniannus yng Ngorllewin Cymru. Mae'n 1939. Nid yw'r problemau yn Ewrop yn effeithio'n wirioneddol ar ein bywydau. Mae gennym ffatri yn y dref lle mae'r mwyafrif o'r dynion yn gweithio, ac mae gennym yr holl siopau sydd eu hangen arnom ein prif stryd; y cigydd, y siop groser, y siop nwyddau. Y siop lyfrau a llawer mwy. Mae hyn yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae'r ffatri yn galon i’r dref ac mae perchennog y ffatri yn gofalu am ei weithwyr.
Stori sy’n bachu
Pobl Pobl tref ffyniannus yn ystod tymhorau’r haf ac hydref 1939
Lle Tref ffyniannus yn Ne Cymru
Problem Rhyfel ar fin torri allan
Cwestiynau agored i annog trafodaeth a datblygu sgiliau llafar a meddwl
Os ydym yn byw yn 1939, beth sydd ddim gennym?
Ymchwiliwch i'r bywyd rhwng y rhyfeloedd - sut oedd hi yn 1939?
Beth oedd yn digwydd yng Ngwledydd Ewrop a pha bryder oedd gennym ni?
Ydy trefi wedi newid llawer ers 1939? Beth efallai na welwn ni nawr?
Sut fyddai prif stryd yn 1939? Pa siopau fyddem yn eu gweld?
Beth fyddai pobl ifanc yn ei wneud ar hyn o bryd? Beth oedd ysgol fel yn ei hamser nhw?
Faint fyddai dy oedran pan fyddet yn dechrau gweithio?
Llunia map o’r y dref.
Y sialens - Rhowch gynnig arni ym mis Ionawr! Gallwn wir ei addasu i bob maes o ddysgu a phob oedran gyda ychydig o ystyriaeth!
Ac arweinwyr – beth am ddechrau cyfarfod cynllunio ar gyfer gyda’r term ‘Gadewch i ni ddweud.....’ !
Nadolig Llawen a diolch i bob athro/ athrawes ac arweinydd sy’n gweithio mor ddiwyd i wneud gwahaniaeth ym mywydau disgyblion a phobol ifanc!
